- Thumbnail
- Resource ID
- b77b7d7f-1348-43d5-bf08-6c496ee9dbbb
- Teitl
- WOM21 Dal Carbon
- Dyddiad
- Awst 4, 2021, canol nos, Creation Date
- Crynodeb
- Mae’r haen hon yn dangos, o waith modelu ar gydraniad gofodol o 250m2, uchafswm y tunelli o garbon y mae’n bosibl eu storio fesul hectar bob blwyddyn drwy blannu coed. Mae Forest Research (FR) wedi modelu nifer o rywogaethau (llydanddail a chonwydd) gan ddefnyddio eu dull Dosbarthu Safleoedd Ecolegol (ESC), gan ystyried tymheredd cronnol, diffyg lleithder, cryfder y gwynt, cyfandiroledd, lleithder y pridd a systemau maethynnau pridd. Wedyn cafodd y coed mwyaf cynhyrchiol o bob math o goetir eu dewis fel y rhywogaethau mwyaf addas ar gyfer lleoliad penodol, a’u modelu gan ddefnyddio CARBINE (dull modelu carbon FR). Mae model CARBINE yn amcangyfrif y newid mewn stociau carbon ar gyfer coedwigoedd (gan gynnwys y biomas mewn coed byw a choed marw, ac yn y pridd) ac unrhyw gynhyrchion pren cysylltiedig sy’n cael eu cynaeafu, yn ogystal â'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hosgoi drwy ddefnyddio cynhyrchion pren yn lle tanwydd ffosil a deunyddiau sy’n ddwys mewn tanwydd ffosil. Gwnaeth Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) ystyried y canlyniadau wedi'u modelu a dewis y math o goetir a oedd yn dal a chadw’r lefelau uchaf o garbon ar y darn hwnnw o dir, boed yn goed conwydd (tua 90% o'r arwynebedd) neu'n goed llydanddail (tua 10% o'r arwynebedd). Rhagdybir system reoli coedwigo isel ei heffaith (LISS) wrth reoli coed llydanddail. Rhagdybir bod systemau rheoli coed conwydd yn golygu gwaith teneuo a chwympo. Mae’r sgôr yn seiliedig ar faint o dunelli o garbon sy’n cael eu dal fesul hectar y flwyddyn, o 0 – yr isaf (allyriadau net) – i 5 – y gorau (sy’n dal y swm mwyaf o garbon).
- Rhifyn
- --
- Responsible
- superuser
- Pwynt cyswllt
- User
- superuser@email.com
- Pwrpas
- --
- Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
- None
- Math
- not filled
- Cyfyngiadau
- None
- License
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
- Iaith
- en
- Ei hyd o ran amser
- Start
- --
- End
- --
- Gwybodaeth ategol
- Ansawdd y data
- --
- Maint
-
- x0: 146611.8011
- x1: 355308.0008
- y0: 164586.2969
- y1: 395984.399900001
- Spatial Reference System Identifier
- EPSG:27700
- Geiriau allweddol
- no keywords
- Categori
- None
- Rhanbarthau
-
Global